Lleoliad:
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2020
Amser:
08. 30 -
09.30
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Caroline Jones AC Dai Lloyd AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd |
Anfonodd Sian Gwenllian ei hymddiheuriadau ar gyfer cyfarfod heddiw; roedd Dai Lloyd yn bresennol yn ei lle.
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio pob busnes nad yw'n fusnes y llywodraeth yfory ar wahân i Gwestiynau Amserol.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Nododd y Rheolwyr Busnes y newidiadau a wnaed gan y llywodraeth i amserlen busnes tair wythnos y llywodraeth i ganolbwyntio ar drafodaethau ar coronafirws.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio pob busnes nad yw'n fusnes y llywodraeth ac eithrio Cwestiynau Amserol am y tair wythnos nesaf o gyfarfodydd llawn.
Gan fod y Rheolwyr Busnes wedi cytuno i ohirio pob busnes ar wahân i Gwestiynau Amserol, ni fydd Dadl Aelod.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddent yn ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w hysbysu y bydd y Bil yn cael ei gyfeirio atynt, ac y dylai ystyried pa amserlen a allai fod yn bosibl o dan yr amgylchiadau presennol.
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytuno ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) gyda 13 Gorffennaf 2020 yn ddyddiad cau ar gyfer adrodd ar Gyfnod 1 a 16 Hydref 2020 yn ddyddiad cau ar gyfer adrodd ar Gyfnod 2. Nododd y Rheolwyr Busnes y tebygolrwydd uchel y byddai angen i'r amserlen hon newid hefyd.
Yn amodol ar gyfarwyddyd cyffredinol i bwyllgorau ganolbwyntio ar fusnes hanfodol, cytunodd y Rheolwyr Busnes y gallai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gwrdd y tu allan i'w slot arferol i hwyluso tystiolaeth gan Weinidogion.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog. Cytunwyd hefyd i atal Rheolau Sefydlog i ganiatáu ar gyfer cynnig i gytuno ar y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yfory, gyda’r newidiadau yn dod i rym ddydd Mercher 6 Mai 2020.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r pwyllgorau, am y dyfodol, ganolbwyntio ar fusnes hanfodol. Cytunwyd hefyd y dylai'r Pwyllgor Busnes gwrdd eto yfory i ystyried opsiynau ar gyfer trefnu ac amserlennu busnes dros yr wythnosau nesaf.